Y Grŵp Trawsbleidiol ar Bobl Hŷn a Heneiddio

Adroddiad 2015 – 2016

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Cyflwyniad

Mae'r Grŵp Trawsbleidiol ar Bobl Hŷn a Heneiddio yn gweithio i sicrhau bod anghenion penodol pobl hŷn yn cael eu hystyried yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ac y gall Aelodau'r Cynulliad sydd â diddordeb mewn materion pobl hŷn ddod at ei gilydd i wneud gwahaniaeth cadarnhaol.

Dyma aelodau'r grŵp:

• Mike Hedges AC (Cadeirydd);
• Mark Isherwood AC;
• Darren Millar AC;
• Keith Davies AC;
• Kirsty Williams AC;
• Lindsay Whittle AC;
• Aled Roberts AC;
• Laura Nott, Age Cymru (Ysgrifennydd)



Datganiad gan y Cadeirydd

Yn ystod sesiwn 2015-16, mae'r Grŵp Trawsbleidiol wedi dilyn rhaglen waith amrywiol. Mae wedi canolbwyntio ar y materion o drechu arwahanrwydd ac unigrwydd, maeth mewn lleoliadau gofal a mynd i'r afael â cham-drin yr henoed.  

Mae'r grŵp wedi cael effaith wirioneddol drwy godi ymwybyddiaeth o faterion yn y cyfryngau ac yn y Cynulliad Cenedlaethol, gwneud gwaith ymchwil gyda Gwasanaeth Ymchwil yr Aelodau, a chyfathrebu â Gweinidogion y Llywodraeth.

*llofnod*

Mike Hedges AC

 

 

 

 

 

 

 

 

 

3 Chwefror 2015
Pwnc: Trechu arwahanrwydd ac unigrwydd

Cyflwyniad gan John Vincent, Senedd Pobl Hŷn Cymru

Rhoddodd John Vincent drosolwg o Senedd Pobl Hŷn Cymru sy’n rhoi llais i bobl hŷn ledled Cymru ac mae dros 50 o sefydliadau pobl hŷn yn gysylltiedig ag ef. Un o'u hymgyrchoedd yw 'P am Pobl', sy'n ceisio diogelu toiledau cyhoeddus yng Nghymru.

Rhaid i bobl hŷn wneud asesiad risg bob tro y byddant yn gadael eu cartrefi – ‘a fydd toiledau cyhoeddus ar gael?’ Maent yn teimlo eu bod wedi'u cyfyngu ac yn gaeth i'w tai oherwydd y broblem hon, sy'n gallu arwain at broblemau meddyliol a chorfforol. Nid pobl hŷn yw'r unig rai yn y sefyllfa hon, er enghraifft, mae pobl anabl, menywod beichiog a phlant yn poeni yn yr un modd. Mae’r holl bobl hyn yn cael eu cyfyngu oherwydd nifer y toiledau sydd ar gael iddynt.

Ysgrifennodd Senedd Pobl Hŷn Cymru adroddiad yn ddiweddar yn galw am y canlynol:

·         Llywodraeth Cymru i ddarparu mwy o arian ar gyfer y Cynllun Grant Cyfleusterau Cyhoeddus ac adfer y drefn o neilltuo arian yng nghyllidebau awdurdodau lleol drwy ei ddyrannu fel grant unigol y tu allan i'r Grant Cynnal Refeniw.

·         Y gyllideb flaenorol a oedd 'wedi'i neilltuo' ond heb ei gwario, i gael ei hail-fuddsoddi yn y cynllun, gan gynnwys arian i ddigolledu awdurdodau lleol am y costau hyrwyddo a gweinyddu sy'n gysylltiedig â gweithredu'r Cynllun Grant Cyfleusterau Cyhoeddus.

·         Awdurdodau lleol i sicrhau bod y Cynllun yn cael ei hyrwyddo / hysbysebu'n effeithiol a’i fod ar gael yn rhwydd mewn fformatau printiedig a digidol.

·         Dylid ymchwilio i broblemau a / neu wrthwynebiadau posibl, a'u tynnu mewn modd pendant drwy ddarparu pecynnau gwybodaeth sy'n cwmpasu ffactorau fel yswiriant atebolrwydd cyhoeddus, iechyd a diogelwch, gofynion o ran arwyddion allanol / mewnol ar y safle ac ati.

·         Dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol (a gaiff ei monitro a'i gorfodi gan Lywodraeth Cymru) i sicrhau, fel hawl sylfaenol a ffordd o ddiogelu iechyd y cyhoedd, fod digon o doiledau cyhoeddus sy'n eiddo i'r awdurdod lleol a / neu doiledau preifat y gall y cyhoedd eu defnyddio, ar gael ym mhob dinas/tref fawr yng Nghymru.

Argymhellion / camau i'w cymryd

·         Cytunodd Mike Hedges AC y dylid anfon cofnodion y cyfarfod hwn fel llythyr ar gyfer yr ymgynghoriad ar y Bil Iechyd y Cyhoedd.

·         Awgrymodd Mark Isherwood AC y dylid anfon llythyr at Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ynglŷn â safon toiledau cyhoeddus a'r gallu i'w defnyddio, gan gynnwys y gallu i ddefnyddio toiledau cyhoeddus mewn banciau a llyfrgelloedd.

Yn bresennol


Mike Hedges AC - CADEIRYDD

Julie Morgan AC

Mark Isherwood AC

Mark Major, Staff Cymorth Suzy Davies AC

John Vincent, Senedd Pobl Hŷn Cymru

Iwan Williams, Swyddfa'r Comisiynydd Pobl Hŷn

Lynda Wallis, Fforwm Strategaeth 50+ y Fro

Carol Maddock, Rhwydwaith Pobl Hŷn a Heneiddio Cymru

Robin Moulster, BASW Cymru

Andrew Bell, SSIA

Lorraine Morgan

Simon Wilkinson, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

 

Phyllis Preece, Confensiwn Pensiynwyr Cenedlaethol

John Davies, Cymdeithas Genedlaethol Pensiynwyr Cymru

Nancy Davies, Fforwm Pensiynwyr Cymru

Gareth Powell

Graeme Francis, Age Cymru

Gerry Keighley, Age Cymru

Laura Nott, Age Cymru - YSGRIFENNYDD


13 Mai 2015
Pwnc: Maeth mewn lleoliadau gofal

Cyflwyniadau gan Jessica Bearman, GIG Cymru a Steve Watson, Coleg Nyrsio Brenhinol.

 

Cyflwynodd Jessica Bearman ei hun fel Dietegydd Arweiniol yng Ngwasanaeth Caffael y GIG yng Nghymru.

 

Mae agwedd negyddol tuag at fwyd yn y GIG ar hyn o bryd; rydym yn galw am gyhoeddusrwydd cadarnhaol i faeth er mwyn atal diffyg maeth. Gydag 20 miliwn o bobl yn yr UE yn dioddef o ddiffyg maeth a 16-29% o boblogaeth lleoliadau gofal, ac 1 o bob 3 o'r bobl dros 65 oed sydd yn yr ysbyty yn dioddef o ddiffyg maeth, mae angen gwneud mwy i atal hyn. Mae angen clustnodi 13 biliwn i fynd i'r afael â diffyg maeth. Hyd yn oed os gallwn wneud gwahaniaeth bach, gallwn gefnogi'r GIG yn ariannol, hyd yn oed gan 10%.

 

Mae 'Sgiliau maeth am oes' yn cael ei arwain gan Lisa Williams, gyda staff cymunedol yn derbyn hyfforddiant pellach o ran gwybodaeth am driniaeth yn y gymuned. Mae gan Iechyd y Cyhoedd Cymru a Swyddfa’r Comisiynydd Pobl Hŷn elfen 'maeth mewn lleoliadau gofal' bwrpasol i'w gwaith ac mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod yn gweithio'n agos gyda'n gilydd. Mae 'Menus Counting Care' yn offeryn lle gallwch ddatblygu bwydlenni a ryseitiau ar-lein gan ddefnyddio darpariaeth safonol. Ymunodd Mark Drakeford AC â’r ymgyrch ymwybyddiaeth a marchnata 'Mind the Hunger Gap' ac felly mae hyn yn flaenoriaeth uchel i wleidyddion.

 

Siaradodd Steve am ei gefndir a nododd y bu'n arolygydd gydag Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru cyn gweithio i’r Coleg Nyrsio Brenhinol.

 

Dywedodd y Coleg Nyrsio Brenhinol fod angen inni sicrhau bod pobl yn gwybod bod bwyd a diod ar gael, gan ddarparu proses fwyta hamddenol, amserol o fewn cyrraedd hawdd. Hefyd mae angen dewis, a chael amrywiaeth o fwyd ar gael sy'n edrych yn flasus.

 

Pam y dylai cartrefi gofal gael bwyd sy'n edrych fel bwyd o safon seren Michelin? Gyda chogyddion da, sy'n cael hyfforddiant rheolaidd, ymgysylltu â phobl, rheolaeth ariannol a ffynonellau lleol, gall y bwyd fod yn rhagorol. Mae 'Menus Count' yn Nhorfaen yn enghraifft ardderchog o hyn - gyda'r cymorth sydd ei angen ar bobl ar unrhyw adeg yn eu bywyd o fewn y cartref.

Argymhellion / camau i'w cymryd

Ni nodwyd unrhyw argymhellion a/neu gamau

Attendees


Mike Hedges AC - CADEIRYDD

Laura Nott, Age Cymru - YSGRIFENNYDD

Andi Lyden, Ymddiriedolaeth y Gofalwyr

Andrew Bell, SSIA

Catherine Evans, Swyddfa’r Comisiynydd Pobl Hŷn

Cerys Furlong, NIACE

Janet Pinder, DeafBlind

Jessica Bearman, GIG Cymru

John Davies, Cymdeithas Genedlaethol Pensiynwyr Cymru

John Moore, Age Cymru

Lisa Turnbull,  Coleg Nyrsio Brenhinol 

Lorraine Morgan

Lynda Wallis, Fforwm Strategaeth 50+ y Fro

Manel Tippet, Coleg Brenhinol y Seiciatryddion

Dr Phil Evans, ADSS Cymru

Raja Adnan Ahmed, Coleg Brenhinol y Seiciatryddion

Robyn Miles, Glaxo SmithKline

Rosanne Palmer, Age Cymru

Ryland Doyle, Staff Cymorth Aelodau'r Cynulliad

Steve Watson, Coleg Nyrsio Brenhinol


14 Hydref 2015
Pwnc: Mynd i'r afael â cham-drin yr henoed

Cyflwyniadau gan Louise Hughes, Age Cymru a Rachael Nicholson, Action on Elder Abuse.

 

Dechreuodd Louise ei chyflwyniad drwy esbonio lle mae Age Cymru yn gweld yr heriau o'u blaenau gyda newidiadau sylweddol yn y ddeddfwriaeth. Ni fydd hyn yn datrys popeth, mae gennym fwy i'w wneud – atal, grymuso, llesiant a dewis.

 

Dylid gweld amddiffyn oedolion fel amddiffyn plant gyda dyletswydd estynedig i gydweithredu (mae’n ofynnol i asiantaethau roi cymorth) ac adrodd am ddigwyddiadau. O ran eiriolaeth, dylai fod hawl i gefnogaeth, sydd bellach yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), ond ni wyddir ar ba ffurf y bydd hwn.

Mae pwysigrwydd hyfforddiant diogelu, yr angen am fwy o amddiffyniad i bobl hŷn sy'n agored i niwed ac sy’n cael eu twyllo gan dwyll a cham-fanteisio ariannol, newid mewn agweddau tuag at bobl hŷn, gyda mwy o urddas a pharch, ac ataliaeth, i gyd yn allweddol i fynd i'r afael â cham-drin yr henoed.

Eglurodd Louise y gallem weld newid er gwaeth mewn argaeledd gwasanaeth eiriolaeth yn ystod y 12 mis nesaf a bydd yn costio llawer o arian i'w gadw. Roedd 84% o eiriolwyr wedi cefnogi rhywun a oedd wedi cael ei gam-drin.

Rhoddodd Rachael Nicholson gyflwyniad i’r grŵp ar waith Action on Elder Abuse. Mae Action on Elder Abuse yn diffinio 'cam-drin' fel: 'gweithred sengl neu weithred sy’n digwydd dro ar ôl tro neu ddiffyg gweithredu priodol o fewn perthynas lle mae disgwyl ymddiriedaeth, sy’n achosi niwed neu drallod i berson hŷn.'

Nid yw amddiffyn pobl hŷn ac oedolion sy'n agored i niwed yn gyffredinol yn cael yr un sylw neu lefel o ddifrifoldeb ag amddiffyn plant, er gwaethaf y ffaith y gall rhai pobl hŷn fod yr un mor agored i niwed, yr un mor ddibynnol ar eu gofalwyr ac yn methu ag ymdopi ar eu pennau’u hunain. Ffordd arall o atal cam-drin yw drwy ddarparu rhwystr, gan sicrhau bod  goblygiadau i’r rhai sy’n cam-drin.

 

Wrth symud ymlaen, hoffem weld ein cynrychiolwyr etholedig, ein Haelodau Cynulliad yn codi proffil cam-drin yr henoed. Tra’r ydym yn anelu at hynny, mae cyfle i godi ymwybyddiaeth o gam-drin yr henoed yn y ddeddfwriaeth newydd ar gyfer cam-drin domestig, i sicrhau y darperir hyfforddiant hanfodol, felly gadewch inni wneud hynny.

Argymhellion / camau i'w cymryd

·         Codi proffil cam-drin yr henoed

·         Gofyn i'r Gweinidog fod yn glir ynghylch beth yw ataliaeth

·         Siarad â fforymau pobl hŷn am sut i gynorthwyo/amddiffyn pobl hŷn rhag cael eu cam-drin

Yn bresennol

Mike Hedges AC - CADEIRYDD

Louise Hughes, Age Cymru

Laura Nott, Age Cymru - YSGRIFENNYDD

Lynda Wallis, Fforwm Strategaeth 50+ y Fro

Cathrin Manning, y Groes Goch

Marion Lowther, Contact the Elderly

Gareth Powell, BASW Cymru

Mohammad Asghar AC

Helen West, Swyddfa Julie Morgan AC

Nancy Cavill, Swyddfa Julie Morgan AC

Iwan Williams, Swyddfa'r Comisiynydd Pobl Hŷn

Phyllis Preece, Confensiwn Pensiynwyr Cenedlaethol

John Davies, Cymdeithas Genedlaethol Pensiynwyr Cymru

Rachael Nicholson, Action on Elder Abuse

Josh Hayman, Swyddog y Comisiynydd Pobl Hŷn

Rachel Gingell - Gofal a Thrwsio Cymru

 

Adroddiad Ariannol 2015 – 16

Incwm: Dim

Gwariant

·         Arlwyo 3 Chwefror 2015:  £77.88

·         Arlwyo 13 Mai 2015:  £77.88

·         Arlwyo 14 Hydref 2015: £55.38

Gwasanaeth Arlwyo gan Charlton House Catering  catering.cardiffbay@cymru.gov.uk  02920 898077

Cyfanswm:                         £211.14

Talwyd yr holl gostau gan Age Cymru.


Lobïwyr proffesiynol, sefydliadau gwirfoddol ac elusennau y mae’r Grŵp wedi cyfarfod â hwy yn ystod y flwyddyn flaenorol.

Ni chyfarfu'r Grŵp ag unrhyw lobïwyr proffesiynol, sefydliadau gwirfoddol nac elusennau y tu allan i gyfarfodydd y Grŵp Trawsbleidiol.